Os yw archif sy’n cynnal rhai o’ch gweithiau wedi’i fewnforio i’r Archive of Our Own – AO3 (Archif Ein Hun), bydd eich gwaith ar AO3 o dan yr enw crëuydd a ddefnyddiwyd gennych ar yr archif wreiddiol. Yn dibynnu ar yr archif, mae’n bosibl mai dim ond aelodau AO3 sydd wedi mewngofnodi bydd yn gallu eu gweld, er mwyn eu cadw allan o chwiliadau Gŵgl.
Bydd e-bost wedi’i anfon i’r cyfeiriad sy’n gysylltiedig â’ch gweithiau ar yr archif wreiddiol, gyda chyfarwyddiadau ar sut i hawlio eich gweithiau, eu hamddifadu neu eu tynnu oddi’r AO3. Yn y tiwtorial hwn, rydym yn egluro’r opsiynau a gyflwynir yn yr e-bost hwnnw. Os yw rhywfaint o’ch gweithiau a fewnforiwyd eisoes ar AO3, cyfeiriwch at Beth os ydw i eisoes wedi postio copi o waith a fewnforiwyd ar AO3 yn ein Holiadau Cyffredin.
Os na dderbynioch yr e-bost hwn, neu nid oes gennych bellach fynediad i’r cyfeiriad e-bost sy’n gysylltiedig â’r archif a fewnforiwyd, cyfeiriwch at Sut mae cael rheolaeth dros fy ngwaith wedi’i fewnforio?
Ar ôl i’ch gwaith gael ei ychwanegu at AO3 fel rhan o fewnforio archif, mae gennych yr opsiynau hyn:
- Hawlio eich gwaith a fewnforiwyd am gyfrif presennol, neu creu cyrfif i’w gysylltu â’r gwaith. Bydd yr opsiwn hwn yn caniatáu ichi anghatrefu, dileu, neu olygu eich gwaith.
- Gadael eich gwaith yng ngofal cyfrif archifydd Bydd yr opsiwn hwn yn gadael eich gwaith ar Ao3, a briodolir i’r ffugenw a ddefnyddiwyd gennych ar yr archif a fewnforiwyd, ond yn gysylltiedig â’r cyfrif archifydd.
- Anghatrefu eich gwaith gyda neu heb eich ffugenw adnabod. Bydd amddifadu yn trosglwyddo eich gwaith i’r cyfrif amddifad Ao3. Rydych chi’n rhoi’r gorau i reolaeth y gwaith, gan gynnwys gan gynnwys y gallu i’w golygu neu eu dileu, ni fyddwch yn derbyn hysbysiadau mwyach neu allu eu hawlio.
- Dileu eich gwaith o AO3. Bydd yr opsiwn hwn yn dileu pob gwaith a fewnforiwyd a restrir o AO3. Mae croeso i chi eu llwytho i fyny neu eu mewnforio eich hun yn hwyrach.
- Cymryd camau ar fewnforion pellach. Mae’r opsiwn hwn yn caniatáu ichi atal mewnforion o archifau eraill, a/neu analluogi hysbysiadau e-bost mewnforio yn y dyfodol.
Nodwch: Bydd unrhyw opsiwn a ddewiswch yn cael ei gymhwyso i pob gwaith a restir yr yr e-bost hawlio, hyd yn oed os mai dim ond rhai sydd wedi’u rhestru ar y dudalen. I reoli gwaith ar wahân, rhaid i chi hawlio eich gwaith a fewnforiwyd yn gyntaf (Opsiwn 1).
Os na wnewch chi ddim byd, byddwch yn gadael y gwaith yng ngofal archifydd (Opsiwn 2). I wirio eich gwaith cyn i chi benderfynu, ond nid oes gennych gyfrif Ao3, cysylltwch â Open Doors (Drysau Agored) gyda’ch ffugenw a theitlau eich gwaith, a byddwn yn anfon copi atoch.
Hawlio eich gwaith a fewnforiwyd
I drosglwyddo eich gwaith a fewnforiwyd i’ch cyfrif Ao3, rhaid i chi hawlio’ch gwaith yn gyntaf. Ar ôl iddynt gael eu hawlio, gallwch anghatrefu, dileu, neu olygu eich gwaith mewn grwpiau neu un ar y tro.
Os nad oes gennych chi gyfrif Ao3 eisoes, rhaid i chi greu un.
Os oes gennych chi gyfrif sy’n gysylltiedig â chyfeiriad e-bost gwahanol a defnyddiwch hwn i hawlio’ch gwaith, nodwch y byddwn yn cysylltu mewnforion yn y dyfodol ar gyfer yr un cyfeiriad â’ch cyfrif AO3 yn awtomatig. I atal hyn, gallwch:
- Cysylltwch â Drysau Agored i ofyn am rwystro’r cyfeiriad e-bost sy’n gysylltiedig â’r cyfrif. Bydd hyn yn atal y mewnforiwr màs rhag mewnforio gwaith sy’n gysylltiedig â’r cyfeiriad hwnnw. Am mwy o wybodaeth, cyfeiriwch at Beth os nad wyf am i’m gwaith gael ei fewnforio?.
- Ychwanegwch y cyfrif archifydd, cyfrif a enwyd ar yr archif a fewnforiwyd sy’n dal ei gweithiau nas hawliwyd, fel cyd-greüydd.Ac wedyn, tynnwch eich cyfrif fel creüydd ar ôl y mewnforio awtomataidd. Am mwy o wybodaeth, cyfeiriwch at Sut i ychwanegu neu ddileu cyd-greuyddion? a Sut i dynnu fy hun fel creüydd gwaith?.
- Anghatrefwch eich gwaith ar ôl y mewnforio awtomataidd. Am mwy o wybodaeth, cyfeiriwch at Sut allai anghatrefu fy ngwaith?.
Hawlio Pob Gwaith
Mae’r testun a’r botwm yn yr adran hon yn wahanol, yn dibynnu a ydych chi wedi mewngofnodi i gyfrif AO3 ar hyn o bryd.
Os ydych chi wedi mewngofnodi, bydd yn dweud:
“Claim your works with your logged in account. If you would like to claim these works under a different account (or create a new account to claim them with), log out and reload this page first.” (Hawliwch eich gwaith gyda’r cyfrif wedi mewngofnodi. I hawlio’r gweithiau hyn gyda chyfrif gwahanol (neu greu cyfrif newydd i’w hawlio), allgofnodwch ac adnewyddu’r dudalen).
O dan y botwm bydd rhestr o bob gwaith sydd wedi’u mewnforio ar ran eich cyfeiriad e-bost. Bydd dewis y botwm yn ychwanegu pob gwaith at y cyfrif Ao3 sydd wedi mewngofnodi.
Os nad ydych wedi mewngofnodi, bydd yn dweud:
We invite you to join our beta and create an account! The works will automatically be added to your account and you will have full control over them.
If you already have an AO3 account, log in and reload this page, and we’ll assign you the works. (Rydym yn eich gwahodd i ymuno â’n beta a chreu cyfrif! Bydd y gweithiau’n cael eu hychwanegu at eich cyfrif yn awtomatig a bydd gennych reolaeth lawn drostynt. Os oes gennych chi gyfrif AO3 yn barod, mewngofnodwch ac ail-lwythwch y dudalen hon, a byddwn yn aseinio’r gwaith i chi)
Gadael eich gwaith yng ngofal y cyfrif archifydd
Mae gan bob archif a fewnforir cyfrif AO3 wedi’i enwi ar ôl yr archif a fewnforiwyd. Gelwir hyn yn “gyfrif archifydd”, ac mae’n berchen ar weithiau’r archif heb eu hawlio.
Bydd dewis yr opsiwm “Leave my works in the care of the archivist” (gadael fy ngwaith yng ngofal yr archifydd) yn golygu nad oes dim yn newid. Bydd eich gwaith yn aros ar yr AO3, wedi’i briodoli i’r ffugenw a ddefnyddiwyd gennych ar yr archif a fewnforiwyd, ond yn gysylltiedig â’r cyfrif archifydd. Er enghraifft:
![Broliant gwaith o'r enw 'Gwaith 1', yn priodoli i Testy, yn gysylltiedig ag archifydd_prawf. Mae'r teitl a'r is-linell yn dweud 'Work 1 by Testy [archived by test_archivist]' (Gwaith 1 gan Testy [edi archifo gan archifydd_prawf])](https://opendoors.transformativeworks.org/wp-content/uploads/2018/09/NEWwork-attributed-to-Testy-attached-to-test_archivist.png)
Os ydych chi eisiau hyn, dewiswch yr opsiwn hwn ac wedyn y botwm “Update” (Diweddaru).
Gyda’r opsiwn hwn, gallwch hefyd hawlio eich gweithiau yn y dyfodol os byddwch yn newid eich meddwl. Os ydych chi’n cadw’r e-bost gwahodd, bydd y ddolen ynddo yn dal i weithio oni bai eich bod chi’n dewis opsiwn arall. Os byddwch yn colli’r e-bost, cysylltwch â Drysau Agored, ar un newydd.
Os hoffech dynnu’r wybodaeth adnabod o’ch gweithiau ond eu gadael yng ngofal yr archifydd, gwnewch y canlynol:
-
- Hawliwch eich gwaith gyda’ch cyfrif Ao3 a’u golygwch i ddileu gwybodaeth adnabod, a gwnewch unrhyw newidiadau eraill y dymunwch.
- Ychwanegwch y cyfrif archifydd fel cyd-greüydd, yna tynnwch eich cyfrif eich hun fel creüydd. Am mwy o wybodaeth, cyfeiriwch at Sut i ychwanegu neu ddileu cyd-greuyddion? a Sut i dynnu fy hun fel creüydd gwaith?.
Enghraifft o waith gyda holl wybodaeth adnabod yr awdur wedi’i dileu, ond yn gysylltiedig â’r cyfrif archifydd, yw:

Os dewiswch wneud hyn, cysylltwch â Drysau Agored a rhowch wybod i ni, os gwelwcy yn dda, fel nad ydym yn ceisio eu hailbennu i chi.
Anghatrefu Eich Gweithiau
Mae amddifadu yn ddewis arall yn lle dileu gweithiau nad ydych chi eu heisiau mwyach sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif, a bydd yn dileu’r holl wybodaeth adnabod o’ch gwaith yn barhaol. Sylwch fod anghatrefu yn barhaol ac yn anghildroadwy – rydych chi’n rhoi’r gorau i reolaeth y gweithiau, gan gynnwys y gallu i’w golygu neu eu dileu, a ni fyddwch yn gallu eu hadennill. Am mwy o wybodaeth am amddifadu eich gwaith, cyfeiriwch at Holiadau Cyffredin Anghatrefu.
Os dewiswch amddifadu eich gweithiau a fewnforiwyd, byddant yn cael eu trosglwyddo i’r cyfrif anghatrefu AO3, a ni fyddwch yn derbyn hysbysiadau ar eu cyfer mwyach. Os dewiswch yr opsiwn “Orphan my works and take my email address off them, but keep my name” (Anghatrefwch fy ngwaith a thynnwch fy nghyfeiriad e-bost oddi arnynt, ond cadwch fy enw) , bydd ffugenw newydd yn cael ei chreu gyda’r un enw â’r ffugenw a ddefnyddiwyd gennych ar yr archif wreiddiol.Os nad ydych am i’ch ffug gael ei gysylltu â’r gweithiau, dewiswch “Assign my works to the AO3 orphan_account, removing both my name and email address” (Neilltuo fy ngwaith i’r cyfrif_amddifad AO3, gan ddileu fy enw a’m cyfeiriad e-bost).
- Os nad oes unrhyw beth rydych chi am ei olygu, gallwch anghatrefu gweithiau trwy’r opsiwn “Anghatrefwch fy ngwaith a thynnwch fy nghyfeiriad e-bost oddi arnynt, ond cadwch fy enw”. I gael gwared ar eich ffugenw hefyd, dewiswch yr opsiwn Neilltuo fy ngwaith i’r cyfrif_amddifad AO3, gan ddileu fy enw a’m cyfeiriad e-bost”.
- Os hoffech eu golygu, gallwch naill ai:
- gysylltu â Drysau Agored yn gofyn i destun penodol gael ei ddileu, ac wedyn bod y gwaith yn cael ei amddifadu.Os gwnewch hyn, rhowch wybod iddynt os hoffech gadw neu ddileu eich ffugenw o’r gweithiau.
- Hawliwch eich gwaith, golygwch fel y dymunwch, ac eu hamddifadu trwy y broses arferol. Am mwy o wybodaeth am hyn, cyfeiriwch at Sut i anghatrefu fy nghwaith?.
Ar ôl dewis opsiwn, dewiswch y botwm ‘Diweddaru’ tuag at waelod y dudalen i gymhwyso eich dewisiadau.
Dileu Eich Gweithiau a Fewnforiwyd o AoO
Bydd yr opsiwn “Please remove my works from the AO3 entirely” (Tynnwch fy ngwaith o’r AO3 yn gyfan gwbl) yn dileu pob gwaith restrir a fewnforiwyd o’r AO3. Sylwch fod hwn yn barhaol ac yn anghildroadwy. Os ydych chi eisiau hyn, dewiswch yr opsiwn hwn a’r botwm ‘Diweddaru’.
Gweithredwch ar fewnforion yn y dyfodol
Atalwch mewnforion yn y dyfodol ar gyfer gwaith o’r cyfeiriad e-bost hwn
Bydd yr opsiwn “From now on, do not import works with this email address” (O hyd ymlaen, peidiwch â mewnforio gweithiau o’r cyfeiriad e-bost hwn) yn atal pob gwaith rhag cael ei gynnwys yn awtomatig mewn mewnforion archif yn y dyfodol os gwnaethoch eu postio o dan y cyfeiriad e-bost hwn. Os ydych chi eisiau hyn, dewiswch y blwch ticio a’r opsiwn a ddewiswyd ar gyfer eich gweithiau a fewnforiwyd, a’r botwm
“Diweddaru”.
Analluogwch hysbysiadau mewnforio yn y dyfodol am waith sy’n gysylltiedig â’r cyfeiriad e-bost hwn
Bydd yr opsiwn “Do not email me in the future when works are imported with this email address” (Peidiwch ag anfon e-bost ataf yn y dyfodol pan fydd gweithiau’n cael eu mewnforio gyda’r cyfeiriad e-bost hwn) yn analluogi’r negeseuon e-bost hysbysu a anfonir fel arfer pan fydd gwaith yn cael ei fewnforio. Os nad ydych am i’ch gwaith gael ei fewnforio o gwbl, dewiswch y blwch ticio “O hyd ymlaen, peidiwch â mewnforio gweithiau o’r cyfeiriad e-bost hwn”, a’r opsiwn perchnogaeth a ddewiswyd, ac wedyn yr botwm “Diweddaru”.
Ble y gallaf gael mwy o wybodaeth os nad yw fy nghwestiwn yn cael ei ateb yma?
Mae rhai cwestiynau cyffredin am Drysau Agored yn cael eu hateb yn ein Holiadau Cyffredin Drysau Agored. Gallwch hefyd gyfeirio at ein Tiwtorial Drysau Agored. Mae rhai holiadau am yr AO3 yn cael eu hateb yn Holiadau Cyffredin AO3.Gall holiadau ac atebion amdan ein Telerau gael eu darganfod o fewn
Holiadau Cyffredin y Telerau. Hefyd, efallai hoffwch edrych ar ein Gwallau Diffiniedig. Os rydych chi angen fwy o help cysylltwch â Drysau Agored neu cysylltwch â Chefnogaeth.